|
Yn 2008 ymgeisiodd dros 3,500 o bobl mewn cystadleuaeth WorldSkills DU. Eleni byddwch yn un ohonynt.
Ymgeisiwch nawr www.worldskillsuk.org

Cyfres o gystadlaethau sgiliau deinamig yw WorldSkills UK ar gyfer pobl ifainc ac oedolion. Wedi’u llunio gan arbenigwyr diwydiant cynhelir hwy bob blwyddyn ledled y DU mewn dros 70 o feysydd sgiliau o Beiriannu Awyrennol a Blodeuwriaeth i Osod Brics a Garddlunio.
Gall rhai o’r cystadlaethau arwain at y gystadleuaeth WorldSkills International. Cynhelir y gystadleuaeth WorldSkills nesaf yn Calgary, Canada yn hwyrach eleni, cyn iddi ddod i Lundain yn 2011.
Os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n gweithio tuag at neu sy’n berchen ar gymhwyster galwedigaethol ac a fyddai’n mwynhau’r her, dyma’r union beth iddynt hwy!
Buddion cystadlu
Bydd cystadlu mewn cystadlaethau WorldSkills yn:
 |
rhoi hwb o ynni a chyffro i weithgareddau hyfforddi |
 |
ysgogi hyfforddedigion a phrentisiaid i ddangos beth fedrant ei wneud |
 |
hyrwyddo eich busnes a’ch sector mewn dull positif |
 |
rhoi ar brawf, profi gwerth a gwella ansawdd rhaglenni hyfforddi |
 |
datblygu a chadw gweithwyr |
 |
gwirio perfformiad a gosod meincnodau yn eu lle |
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ar-lein ar gyfer y rhan fwyaf o’r cystadlaethau yw’r 9fed o Ebrill 2009. Detholwch o’r rhestr o gystadlaethau ar ochr chwith y
dudalen hon neu ymwelwch â www.worldskillsuk.org am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gofrestru.
CystadleuaethSgiliau Cymru
Mewn ymdrech i ddatblygu cystadlaethau sgiliau ymhellach o fewn Cymru, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda cholegau, cynghorau sgiliau sector, darparwyr dysgu wedi’i seilio ar waith a chyflogwyr er mwyn trefnu a chynnal cystadlaethau sgiliau lleol. Yn dwyn yr enw CystadleuaethSgiliau Cymru, cynhelir llawer o’r rhain yn unol â meini prawf WorldSkills UK ac ar yr amod fod cystadleuwyr yn gwneud yn ddigon da, medrent arwain at rowndiau terfynol WorldSkills UK. Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost at worldskills@wales.gsi.gov.uk
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech chi siarad â rhywun ynghylch gwneud cais neu am gymorth cyffredinol, mae croeso i chi alw canolfan cysylltu WorldSkills UK ar 0800 612 0742 neu anfon e-bost at: worldskills@wales.gsi.gov.uk
Am fwy o wybodaeth, llwythwch ein
canllaw wybodaeth i lawr neu ymwelwch â www.worldskillsuk.org
|